Cynhadledd – Inswleiddio Waliau: Trin Hen Adeiladau’n Iawn, Court Coleman, Pen-y-bont ar Ogwr, 25 Mawrth 2014
Cafodd y gynhadledd ar Inswleiddio Waliau: Trin Hen Adeiladau’n Iawn ei threfnu gan y Grŵp Cynghori ar Sgiliau Adeiladu Traddodiadol a Chynaliadwy yng Nghymru. Yn ystod y dydd, cafwyd nifer o gyflwyniadau a dechreuodd y gynhadledd gydag amlinelliad o’r sialensiau a wynebwyd wrth baratoi’r stoc dai a godwyd yng Nghymru cyn 1919 ar gyfer dyfodol cynaliadwy a rhad-ar-ynni. Dilynwyd hyn gan gyflwyniadau ar waith ymchwil ac astudiaethau achos cyfredol yn ymwneud ag inswleiddio waliau mewn hen adeiladau, a gorffennwyd cyflwyniadau’r dydd trwy ffocysu ar addysg a hyfforddiant yn y sector. Profodd y gynhadledd i fod yn fforwm hynod ddefnyddiol ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymhlith sbectrwm eang o bobl sy’n gweithio yn y sector adeiladu yn Ne Cymru. Dangosai hyn fod yna gryn dipyn o wybodaeth bwysig ar gael yn y sector ynglŷn â’r ffordd briodol o ôl-osod hen adeiladau, fodd bynnag, mae’n glir bod yna waith enfawr i’w wneud eto i wella ein dealltwriaeth o stoc adeiladau hanesyddol Cymru a’r modd y dylid ei chynnal wrth gwrdd â thargedau lleihau carbon yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r eitemau a drafodwyd yn y gynhadledd, ewch at:-
Cyflwyniadau:-
Rhagarweiniad– Cyflwynwyd gan Trevor Francis
Effeithlonrwydd Ynni mewn Cyd-destun Ehangach– Cyflwynwyd gan John Edwards
Gwerthoedd U ac Ôl-osod Waliau Traddodiadol – Cyflwynwyd gan Caroline Rye,
Ac am ragor o wybodaeth, gweler SPAB
Ymchwil Ddiweddaraf DECC– Cyflwynwyd gan Colin King
Ystyriaethau Ymarferol yng Nghymru’r Glaw a’r Gwynt – Cyflwynwyd gan Frances Voelcker
Arddangosiad o “olwyn gyfarwyddyd” yr STBA gan Neil May, Cyfarwyddwr Natural Building Technologies. Am ragor o wybodaeth - STBA
Papur STBA ar Ôl-osod Adeiladau Traddodiadol yn Gyfrifol – Adroddiad ar ymchwil bresennol a Chyfarwyddyd gydag Argymhellion
Gwybodaeth, Cymhelliad a Pholisi – Cyflwynwyd gan Tim Forman
Y Sgiliau sy’n Ofynnol ar gyfer y Sector – Cyflwynwyd gan John Edwards
Astudiaethau Achos:-
Arbed I: Inswleiddio Waliau Allanol a Ôl-osodwyd – Joanne Atkinson, Groundwork Caerphilly
Gellir lawrlwytho papur pellach i gefnogi’r cyflwyniad – Asesu’r modd y mae waliau allanol a ôl-osodwyd yn cael eu hinswleiddio mewn anheddau a godwyd cyn 1919 yn Abertawe (y DU), Joanne Atkinson
Inswleiddio waliau solet: Arolwg SPAB ar berfformiad adeiladau a chanfyddiadau’r monitro perfformiad a wnaed cyn ac ar ôl gwaith adnewyddu– Caroline Rye, ArchiMetrics
Inswleiddio Waliau Allanol – Sut rydyn ni’n datblygu’r gweithwyr proffesiynol a’r crefftau ar gyfer heddiw ac yfory? – Trevor Francis, Prifysgol Fetropolitan Abertawe