Dewis contractwr ar gyfer eich hen adeilad
Yn aml mae dewis y contractwr 'cywir' yn aml yn heriol iawn, yn enwedig pan fo prosiect yn un mawr a chostus. Mae'n bwysig eich bod yn dewis contractwr sy'n deall yn llawn mecanwaith hen adeilad er mwyn sicrhau y bydd unrhyw waith a wneir yn dal ei dir dros amser.
Gallai'r Cyfeiriadur Contractwyr roi man cychwyn defnyddiol i chi, ond mae hefyd yn bwysig ystyried y canlynol wrth ddewis eich contractwr:
- Cyflogwch gontractwr sy'n deall hen adeiladau ac yn sympathetig tuag atynt.
- Cyfwelwch nhw a cheisiwch farnu a yw eich darpar adeiladwr yn credu yn yr egwyddor 'atgyweirio'. A yw er enghraifft yn defnyddio cymysgedd calch pur heb sment, neu a yw'n fodlon atgyweirio hen ffenestr yn hytrach na'i newid am un newydd?
- Peidiwch â bod ofn cwestiynu unrhyw gynlluniau a gynigir gan gynghorydd proffesiynol, er enghraifft gofynnwch beth yw goblygiadau ychwanegu neu waredu elfennau.
- Dylech gael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig manwl a gwiriwch eu bod yn cynnwys TAW, os ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW.
- Rhowch ddogfen ysgrifenedig i'ch contractwr sy'n cynnwys disgrifiad o'r gwaith y mae ei angen, er mwyn iddo roi pris. Bydd hyn yn eich helpu i gymharu dyfynbrisiau gan gontractwyr gwahanol.
- Gofynnwch am eirdaon y mae modd i chi eu holrhain, siaradwch â chyn-gleientiaid ac archwiliwch enghreifftiau o'u gwaith. Yn ddelfrydol, dylai'r gwaith fod yn debyg i'ch prosiect chi.
- Wrth gymharu dyfynbrisiau, cofiwch nad y pris isaf yw'r gorau bob amser, a chadwch lygad am unrhyw gostau cudd.
- O ran contract, fe'ch cynghorir i gynnwys dyddiad dechrau a gorffen i'r gwaith, unrhyw warant, a diffiniwch yn union yr hyn sydd wedi / heb ei gynnwys yn y pris y cytunwyd arno.
- Peidiwch byth â thalu ymlaen llaw a chytunwch â'ch contractwr pryd y dylid talu'r rhandaliadau.
- Yn aml, gall gwaith heb ei ragweld nad yw wedi'i gynnwys yn y pris cytunedig gwreiddiol ddod i'r amlwg wrth i waith ar hen adeilad ddechrau. Cyn i unrhyw waith ddechrau, dylech wybod sut y bydd y contractwr yn ymgorffori gwaith ychwanegol i'r gost wreiddiol y cytunwyd arni.
- Sicrhewch fod gan bob contractwr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr llawn trwy ofyn am gael gweld yr holl dystysgrifau.
Cofnodi ar gyfer y dyfodol
Mae'n bwysig cadw cofnod o'r holl waith a wnewch. Nid yn unig y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi, ond hefyd i unrhyw adeiladwr proffesiynol a fydd yn gweithio ar eich cartref ac unrhyw berchnogion yr adeilad yn y dyfodol.