Crëwyd y wefan hon i gynorthwyo unrhyw un sy'n gweithio ar eu hen adeilad, neu sydd am wneud gwaith ar eu hen adeilad.
Yr hyn a wnawn
Mae'r Grŵp hwn yn hyrwyddo datblygiad sgiliau adeiladu traddodiadol a materion cynaliadwyedd sy'n ymwneud â'r holl hen adeiladau ledled Cymru. Darparwn gymorth trwy ddigwyddiadau addysgol, eiriolaeth ar bwyllgorau adeiladu cenedlaethol a rhannu gwybodaeth.
Canolbwyntiwn ar y 500,000 o adeiladau yng Nghymru a adeiladwyd cyn 1919.
Defnyddiwch y wefan hon i gael mynediad i:
- Y cyfeiriadur sgiliau, a luniwyd i'ch helpu i ganfod adeiladwyr a chrefftwyr yn eich ardal
- Cyrsiau a chyfleoedd i ddysgu rhagor am sgiliau crefftau adeiladu traddodiadol
- Gwybodaeth am sut i ofalu am eich hen adeilad
- Sefydliadau a mentrau actif eraill yng Nghymru sy'n ymwneud â hen adeiladau.
Cefnogwn:
- Grefftwyr,
- Sefydliadau addysg,
- Perchnogion hen adeiladau,
- Penseiri a syrfewyr – yn wir, pawb a chanddynt ddiddordeb personol yn adeiladau hanesyddol Cymru.