Gwybodaeth ar gyfer y Cyfeiriadur
Bwriad y Cyfeiriadur hwn yw eich helpu i ganfod unigolion neu gwmnïau sy'n deall pwysigrwydd defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu traddodiadol ar adeiladau a godwyd cyn 1919, ac sydd â'r sgiliau i'w cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio.
I ddysgu rhagor am y gwahaniaethau rhwng adeiladau hen a newydd, ewch i'n tudalen gwybodaeth am hen adeiladau, ac os oes angen help arnoch i ddewis y contractwr cywir, edrychwch ar y dudalen Dewis eich Contractwr.
Mae'r Cyfeiriadur wedi'i rannu'n gategorïau fel bod modd i chi ganfod contractwr yn rhwydd yn ôl lleoliad a maes arbenigedd.
Rydym yn sylweddoli y gall fod bylchau ac anghywirdebau yn y cyfeiriadur, a byddwn yn barod i ychwanegu unigolion neu gwmnïau addas sy'n gweithio yn y sector sgiliau adeiladu traddodiadol yng Nghymru. Mae cofnod yn y cyfeiriadur yn rhad ac AM DDIM i'r holl unigolion a chwmnïau sy'n:
- Deall pwysigrwydd defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu traddodiadol ar adeiladau a godwyd cyn 1919 yng Nghymru.
- Meddu ar y sgiliau a'r gallu i gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau a godwyd cyn 1919.
- Credu yn yr egwyddor o 'atgyweirio' dros 'adfer', yng nghyd-destun adeiladau hanesyddol.
Cysylltwch â ni os gallwch awgrymu unrhyw ychwanegiadau neu gywiriadau.