Gwybodaeth am hen adeiladau

Gwybodaeth am hen adeiladauA ydych yn gyfrifol am ofalu am hen adeilad a adeiladwyd cyn 1919?
Defnyddiwyd dulliau adeiladu traddodiadol yn helaeth yng Nghymru tan ddechrau'r 20fed ganrif i adeiladu amrywiaeth eang o fathau ac arddulliau o adeiladau dros y blynyddoedd. Mae modd ystyried tai teras diwydiannol, ffermdai ac adeiladau amaethyddol, bythynnod, eglwysi, maenordai a chestyll i gyd yn adeiladau 'traddodiadol', ac mae llawer yn parhau i gael eu defnyddio bob dydd ac nid ydynt yn rhestredig.

Mae adeiladau hŷn yn werthfawr am yr hyn y maent yn dweud wrthym am y gorffennol, ac ar hyn dyma un rhan o dair o dai Cymru. Fodd bynnag, gall gofalu am un yn y ffordd iawn fod yn her, gan eu bod yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i adeiladau modern.

Bydd defnyddio technoleg fodern ar eich hen adeilad nid yn unig yn newid ei ymddangosiad ac yn addasu ei gymeriad, ond gall hefyd ddifrodi'r adeilad. Felly mae'n bwysig defnyddio contractwr sy'n deall pwysigrwydd defnyddio deunyddiau traddodiadol (gweler dewis eich contractwr).

Gwahaniaethau hanfodol yn y technegau a'r deunyddiau adeiladu a ddefnyddiwyd cyn 1919:
Walliau
Lloriau
Ffenestri

Walliau

  • Adeiladwyd Waliauwaliau bron yr holl adeiladau cyn 1919 mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd yr adeiladwyd waliau wedi hynny.
  • Cyn 1919 roedd gan y rhan fwyaf o adeiladau waliau soled o ddeunyddiau naturiol anadladwy. Morter athraidd wedi'i wneud o galch a thywod a oedd yn dal briciau a cherrig at ei gilydd fel arfer.
  • Roedd hen adeiladau yn cael eu hadeiladu, eu plastro a'u rendro â chalch yn wreiddiol.
  • Bwriad y waliau trwchus a soled oedd rheoli'r dŵr trwy fod yn rhwystr ffisegol i'r glaw. Fel arfer gwelir po fwyaf gwlyb yr hinsawdd a'r curlaw, y mwyaf trwchus yw'r waliau.
  • Pan fo'n bwrw glaw, caiff gwlybaniaeth ei amsugno trwy'r rendrad calch. Pan fo lefel y gwlybaniaeth yn yr aer o gwmpas y tŷ yn lleihau, bydd y gwlybaniaeth yn anweddu oddi yno trwy'r arwynebedd allanol.
  • Y dull safonol o adeiladu heddiw yw defnyddio waliau ceudod.
  • Nid yw technegau na deunyddiau a ddefnyddir ar adeiladau newydd megis rendradau sment, yn cyd-fynd o gwbl ag  waliau soled traddodiadol. Bydd rendrad sment yn dal dŵr mewn wal soled, ond ni fydd deunydd 'anwedd-athraidd' megis calch yn gwneud hyn.
  • Mae dal dŵr yn arwain at waliau mewnol llaith a thymereddau isel yn y tŷ. Yna, mae hyn yn arwain at anwedd a llwydni, a gall hyn yn y pen draw arwain at elfennau'r strwythur yn dadfeilio'n gyflymach a difrod sylweddol i'r adeilad.

Lloriau

  • Mae angen i loriau soled; o friciau neu gerrig llorio, sydd wedi'u gosod yn uniongyrchol ar bridd, anadlu trwy'r uniadau.
  • Ceir problemau wrth i garped â chefn rwber, gorchudd llawr plastig a linoliwm gael eu gosod yn uniongyrchol ar hen loriau neu ar goncrit lefel sydd wedi'i roi ar hen loriau. Ni all y gwlybaniaeth ddianc ac yna gall hyn arwain at lwydni a lleithder.

Ffenestri

Windows Windows Windows Windows WindowsWindowsWindowsWindows

  • Yn y rhan fwyaf o hen dai, mae fframiau'r ffenestri wedi'u gwneud o bren.
  • Os cânt eu cynnal a'u cadw'n dda, mae modd i ffenestri â fframiau pren bara am gyfnod hir iawn. Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylid ystyried eu newid, a dylai unrhyw ffrâm newydd fod mor agos i'r hen ddyluniad â phosibl.
  • Mae safle, cyfrannedd, patrwm gwydr a manylion y ffenestri gwreiddiol mewn hen dai'n ffurfio elfen bwysig o ran diffinio'u cymeriad.

Yr angen am gynnal a chadw priodol a digonol – mae'n bwysig iawn i adeilad hŷn gael ei gynnal a'i gadw'n gywir ac yn rheolaidd. Mae proses cynnal a chadw reolaidd yn hanfodol i helpu i osgoi problemau mawr yn ddiweddarach.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:-

I gael gwybodaeth am ddeunydd darllen pellach, cysylltwch â ni.

Website design by w3designs