Cael eich Rhestru
Rydym yn deall y gallai fod bylchau a gwallau yn y cyfeiriadur, a byddwn yn fodlon ychwanegu unigolion neu gwmnïau addas sy'n gweithio yn y sector sgiliau adeiladu traddodiadol yng Nghymru. Mae modd cael eich ychwanegu at y cyfeiriadur AM DDIM os ydych yn unigolion neu'n gwmni sy'n:-
- Deall pwysigrwydd defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu traddodiadol ar adeiladau a gafodd eu hadeiladu cyn 1919 yng Nghymru.
- Meddu ar y sgiliau a'r gallu i gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau a gafodd eu hadeiladu cyn 1919.
- Credu yn egwyddor 'atgyweirio' yn hytrach nag 'adfer', o ran adeiladau hanesyddol.
Cysylltwch â ni os gallwch awgrymu unrhyw ychwanegiadau neu gywiriadau.
