Rhestrau
Coe Stone Ltd
Mae Coe Stone Ltd wedi'i leoli yn Sir Gâr ac yn gweithio'n bennaf yng Nghymru. Mae Coe Stone Ltd yn arbenigo mewn atgyweirio a glanhau gwaith cerrig mewn adeiladau hanesyddol ac ar henebion. Gallwn fynd i'r afael â phob agwedd ar waith cerrig gyda phwyslais cryf ar dechnegau traddodiadol o gerfio cerrig a defnyddio morterau calch. At hynny, mae'r cwmni yn cynnig sgiliau cerfio eithriadol ac yn ymgymryd â gwaith comisiwn sy'n amrywio o greu gweithiau cerfluniol a lleoedd tân hen ffasiwn i waith eglwysig.
Categorïau: Gwaith Brics, Gwaith Maen





