Rhestrau
Menter Y Felin Uchaf Cyf
Er 1992, mae Menter Y Felin Uchaf Cyf wedi dylunio a chreu adeiladau a ysbrydolwyd gan draddodiad. Rydym yn arbenigo mewn cynlluniau eco a thraddodiadol yn enwedig gwaith crwm a chodi fframiau pren â llaw, gan ddefnyddio coed y cleient neu goed lleol o Gymru. Mae rhai o'n prosiectau blaenorol wedi ennill gwobrau gan gynnwys gwaith ar waliau clom, toeau gwellt, tai crwn a cherfluniau derw a gomisiynwyd. Rydym yn cynnig hyfforddiant mewn nifer o feysydd gan gynnwys fframiau derw, waliau cerrig a chlom, adeiladwaith o fêls gwellt a gwaith calch.
Categorïau - Gwaith Coed, Adeiladu â Phridd, Gwaith Maen, Gosod to Gwellt, Darparwyr Hyfforddiant






