Rhestrau
Scharer Conservation
Mae'r Natural Building Centre wedi gweithio ar hen adeiladau yng Ngogledd Cymru gyda'n chwaer gwmni, Scharer Conservation, er 2004. Rydym yn cyflenwi deunyddiau cynaliadwy: calch, inswleiddiad, paent, a phren lleol; ac addysgu'r ffyrdd gorau o ddefnyddio'r deunyddiau hyn. Gallwn helpu i ddod o hyd i'r atebion mwyaf cost-effeithiol, hirdymor a chynaliadwy a chyflenwi'r deunyddiau angenrheidiol i atgyweirio hen adeiladau a chodi adeiladau newydd. Cynhelir ein cyrsiau ymarferol a phoblogaidd ym Mhlastirion, Llanrwst, lle rydym yn adfer y ffermdy a'r tai allan o'r 16eg ganrif.
Categorïau - Gwaith Plastro a Chadw Gwrthrychau






