Rhestrau
The Natural Building Centre Ltd
Mae Ned Scharer yn brofiadol iawn ym maes cadwraeth ac yn meddu ar gymwysterau uchel. Bu'n gweithio ar brosiectau cadwraeth ac adeiladau rhestredig ar hyd a lled y Deyrnas Unedig er 2000, gan gynnwys prosiect tair blynedd ar y palmant Cosmati yn Abaty San Steffan. Mae'n arbenigo mewn lloriau, murluniau, cerfluniaeth a gwaith cerrig addurniadol, ond ar ben hynny, gall ymgymryd â'r rhan fwyaf o agweddau ar waith cadwraeth. Mae'n gweithio o Blastirion, Llanrwst, ar y cyd â'r Natural Building Centre, neu allan ar safleoedd yn darparu sgiliau arbenigol na all cwmnïau eraill mo'u darparu.
Categorïau - Gwaith Cerrig, Darparwr Hyfforddiant, Plastro a Chyflenwr






