Rhestrau
Tree and Sons Ltd
Mae Tree and Sons Ltd yn fusnes teuluol arobryn sydd wedi bod yn masnachu am 37 o flynyddoedd. Mae gennym ni dîm o grefftwyr a labrwyr medrus a hyfforddwyd mewn dulliau adeiladu treftadaeth yn ogystal â rhai traddodiadol a chyffredinol. Rydym yn arbenigwyr ym maes cadwraeth a chyfnerthiad ac yn gontractwyr adeiladu cyffredinol, gyda phortffolio helaeth o brosiectau adeiladu sy'n cynnwys adeiladau traddodiadol, cynaliadwy a rhestredig; henebion hynafol, hanesyddol a diwydiannol a safleoedd eglwysig ynghyd ag adeiladau newydd. Rydym yn cyflawni gwaith o safon uchel o ran Gwaith Maen Cerrig, Rendro Mortar Calch a Phlastro, Gwaith Saer ac Asiedydd, Gwaith Toi, Weldio Plwm a Gwaith Paratoi'r Pridd yng Ngorllewin Cymru.
Categorïau - Gwaith Maen Cerrig, Plastro Mortar Calch, Gwaith Saer, Gwaith Toi, Gwaith Plwm, Adeiladu Cyffredinol, Gwaith Bric, Plastro Solet, Adeiladu Pridd, Gwaith Paratoi'r Pridd a Phaentio/Addurno