Rhestrau
Trowelworks
Mae Trowelworks wedi bod yn rhan o sawl prosiect yn ymwneud â phlastro calch traddodiadol, yn amrywio o faenordai’r 15fed ganrif i ffermdai Edwardaidd. Rydym yn fedrus ymhob agwedd ar blastro calch mewnol boed hynny ar gyfer cerrig, briciau, delltydd neu fordydd o bren a gwlân. Rydym hefyd yn ymgymryd â gwaith calch allanol sy'n cynnwys rendro a phwyntio calch. Teimlwn fod y geirdaon a'r tystlythyrau niferus yr ydym wedi’u cael oddi wrth gwsmeriaid bodlon ymhob cwr o Ogledd Cymru yn cefnogi ein hymrwymiad i'r grefft draddodiadol hon.
Categorïau - Adeiladu Cyffredinol, Plastro






