Rhestrau
Welsh Lime
Mae Welsh Lime yn darparu gwasanaethau plastro a rendro calch arbenigol ar gyfer adeiladau traddodiadol ar hyd a lled De Cymru. Mae ein crefftwyr profiadol wedi hen fwrw'u prentisiaeth ac yn cyflawni gwaith o safon uchel ar nifer o brosiectau er boddhad y cleient. Rydym yn gweithredu fel tîm bach medrus iawn ac mae pob un ohonon ni'n Blastrwyr Sgiliau Treftadaeth CSCS ac yn meddu ar gardiau Aur CSCS. Rydym am gadw adeiladau Cymru yn sych, yn rhydd o leithder ac yn brydferth am flynyddoedd lawer i ddod.
Categorïau - Gwaith Bric, Gwaith Cerrig, Plastro Ffibrog/Addurniadol, Plastro Solet a Chyflenwr







