TSBSAG - Cyfarfod – Tŷ Mawr, Aberhonddu, 17 Tachwedd 2014
Ym mis Tachwedd 2014, gwnaeth y Grŵp Cynghori ar Sgiliau Adeiladu Traddodiadol a Chynaliadwy yng Nghymru adolygu ei strwythur gweithredu ffurfiol. Yn dilyn trafodaethau, cynigiwyd bod y grŵp yn dod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol ac eiliwyd y cynnig hwnnw. Adolygwyd statws y grŵp a phenderfynwyd y byddai’r aelodau’n parhau â’u polisi aelodaeth agored. Roedd yr eitemau eraill a drafodwyd yn ystod y cyfarfod yn cynnwys enw a logo newydd ar gyfer y grŵp; gweithrediadau’r grŵp a thrafodaethau ar gamau i’w gweithredu i’r dyfodol.
Cafodd cyfres o eitemau Newyddlen eu cyflwyno ar ôl y cyfarfod i roi diweddariad ynghylch y sector ac maen nhw ar gael i’w gweld.
Eitemau Newyddlen / Cyflwyniadau:-
Cyfleoedd yn y sector – Cyflwynwyd gan Nell Hellier – am ragor o wybodaeth gweler tudalen hyfforddi
Prosiect Safleoedd Adeiladau Cynaliadwy Cymru – diweddariad – Cyflwynwyd gan Ian Lumsdaine
BEST – Cysylltiadau gyda’r Agenda Adeiladu Traddodiadol – Cyflwynwyd gan Lara Hopkinson a Julie Gwilliam – am ragor o wybodaeth, gweler Built Environment Sustainability Training (BEST)
Cyflwyniad Cyffredinol yr NHTG am ragor o wybodaeth gweler gwefan yr NHTG
Hyfforddeiaeth Sgiliau Treftadaeth Dyfrffyrdd gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd – am ragor o fanylion gweler gwefan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Rheoliadau Adeiladau yng Nghymru – perthnasedd i Hen Adeiladau – Cyflwynwyd gan Chris Jones (CAPITA)


