TSBSAG, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Tŷ Tredegar, Casnewydd, 7 Gorffennaf 2014
Gwnaeth Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2014 y Grŵp Cynghori ar Sgiliau Adeiladu Traddodiadol a Chynaliadwy yng Nghymru, ganolbwyntio’n bennaf ar ffurfioli strwythur gweithredu’r grŵp. Cynigiwyd bod y grŵp yn creu Cwmni Buddiannau Cymunedol; cafwyd trafodaethau ynglŷn â Buddiolwyr a Gweithrediadau a Manteision sy’n Gysylltiedig â Chwmni Buddiannau Cymunedol, a chodwyd cwestiynau ynglŷn â fformat y cyfryw gwmni. Gan fod yna gwestiwn yn parhau ynghylch a ddylai’r grŵp ddod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol neu’n elusen, penderfynwyd adolygu hyn eto yn y cyfarfod nesaf. Roedd yr eitemau eraill a drafodwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2014 yn cynnwys y wefan a’r cyfarwyddiadur o ddynion a merched oedd yn grefftwyr ac yn gweithio yn y sector lle defnyddir sgiliau adeiladu traddodiadol; adolygiad o’r Gynhadledd Inswleiddio Waliau, Cynllun Gweithredu NHTG Cymru, ac Uwchgynhadledd Castell Caerffili.
Am ragor o wybodaeth am yr eitemau a drafodwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2014, gweler:-
At hynny, cyflwynwyd cyfres o eitemau Newyddlen yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan roi diweddariad o’r sector ac maen nhw ar gael i’w gweld.
Eitemau’r Newyddlen / Cyflwyniadau:-
Map Cymhwyster Treftadaeth–Cyflwynwyd gan Nell Hellier – am ragor o wybodaeth am hyfforddiant ar y sector treftadaeth gweler y dudalen hyfforddi
Newyddion Bwrsari Treftadaeth– Cyflwynwyd gan Damian Williams
Diweddariad ar y Bil Treftadaeth – Cyflwynwyd gan Bill Zajac – am ragor o wybodaeth ar Fil Treftadaeth Cymru, ewch i Wefan Llywodraeth Cymru a CADW
Diweddariad ar y Cynllun Rhannu Prentisiaid– Cyflwynwyd gan Gemma Mineur – am ragor o wybodaeth ar y Cynllun Rhannu Prentisiaid, ewch i Cyfle Building Skills
Ailsefydlu Grŵp Cadwraeth RSAW– Cyflwynwyd gan Richard Dean
Prosiect Safleoedd Dysgu am Adeiladu’n Gynaliadwy yng Nghymru– Cyflwynwyd gan John Edwards ac Ian Lumsdaine


